Llogi Beic Trydan

Cymraeg English

two 3-bikes in Llandysul parkFFORDD HWYLUS O WELLA'CH IECHYD

Os ydych chi'n chwilio am ffyrdd o wella'ch ffitrwydd, ond ddim yn siŵr sut na beth i'w wneud, beth am ystyried rhoi tro ar feic trydan Morley? Mae'r beic trydan yn hwyl, yn ymarferol ac yn hawdd ei ddefnyddio, a bydd yn siŵr o wella'ch ffitrwydd a'ch lles.

Gall y beic deithio hyd at 100 milltir ar 1 siwrnai sengl pan fydd wedi'i wefru’n llawn. Mae ganddo far isel, sy'n golygu y gallwch reidio'r beic mewn unrhyw ddillad. Gallwch hefyd ddringo ar y beic a dod oddi arno heb fawr o ymdrech. Mae'r batri Bosch 400Wh yng nghanol y beic ar diwb y sedd er mwyn sicrhau bod y pwysau'n cael ei ddosbarthu'n berffaith. Oherwydd hyn mae'r beic yn teimlo'n fwy sefydlog eto wrth i chi seiclo, ac yn sicrhau bod y siwrnai'n llyfn a'ch bod yn gallu cyflymu dan reolaeth.

Mae geometreg ffrâm alwminiwm ysgafn y Morley yn hamddenol, gyda blaen uchel a chyrhaeddiad byr. Mae hyn yn gymorth i chi eistedd i fyny ac yn lleddfu unrhyw straen ar yr ysgwyddau, y dwylo neu'r arddyrnau. Cefnogir y ffrâm ymhellach gan sedd hynod o gyffyrddus, sydd hefyd yn sioc laddwr, a dolen y bar llywio sy'n gallu cael ei addasu’n llwyr. Mae hyn yn sicrhau eich bod yn gallu gosod y beic fel ei fod yn berffaith i chi ei reidio.

Mae seiclo ar feic trydan yn gallu bod llawn cystal â beic cyffredin i wella'ch ffitrwydd - hyd yn oed gyda’r pŵer ychwanegol. Gallech ddefnyddio'r beic i seiclo'n hamddenol o amgylch ardaloedd gwledig,  hardd Ceredigion a Chaerfyrddin, neu deithio i'r gwaith ac yn ôl. Mae'r beic trydan yn gwella'ch iechyd ond mae hefyd o fudd i'r blaned.

Os hoffech roi tro arno neu os hoffech ragor o wybodaeth amdano, mae croeso i chi gysylltu â Dolen Teifi, Llandysul ar 01559 362403 neu e-bostio:- info@dolenteifi.org.uk

E-bike for hire from Llandysul

Gallwch logi ein Beiciau Trydan!

GWYBODAETH AM LOGI BEIC TRYDAN: Cyfradd hurio Dolen Teifi (y person)
Cytundeb Benthyg Beic
Ffurflen Gwybodaeth a Chaniatâd Beicwyr

Prisiau yn gywir ers 09/02/2022

£3 yr awr
 
4 awr £10
 
Trwy’r dydd (8 awr) £18
Ystyr diwrnod llawn yw 9yb-5yp
 
1-4 diwrnod (y dydd) £16

 Am wythnos 7 niwrnod (y dydd) £14
Gallwch hurio helmed a chlo beiciau am  £2 yr eitem (os digwydd i chi eu colli bydd tâl o £5 yr eitem)
 
Dogfen Adnabod angenrheidiol, gallai fod yn :-  Drwydded gyrru cerdyn-llun, pasbort, neu gerdyn adnabod
 
Gofynnir am flaendal o £100, byddwch yn ei gael yn ôl ar ôl i ni gael y beic yn ôl ar yr amod nad  oes unrhyw ddifrod.