Gwirfoddolwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru

13/03/2026

Llongyfarchiadau mawr i Roy Davies ar gael ei enwi’n Wirfoddolwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru, a gynhaliwyd yn ddiweddar ym Mhentre Awel, Llanelli.

Mae Roy yn wirfoddolwr hynod ymroddedig sy’n rhoi nifer fawr o oriau o’i amser i helpu eraill. Mae’n gwirfoddoli gyda Dolen Teifi / Ar y Ffordd ac hefyd gyda Sefydliad Burns, gan gefnogi pobl i gael mynediad at drafnidiaeth a gwasanaethau hanfodol yn eu cymunedau.

Yn aml iawn mae ei wraig Gwen yn ei gefnogi hefyd, gan helpu pan fo angen. Gyda’i gilydd maent yn rhoi cyfraniad anhygoel i’r gymuned.

Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth haeddiannol iawn o ymrwymiad, caredigrwydd ac egni Roy dros flynyddoedd lawer o wirfoddoli.

Llongyfarchiadau Roy – rwyt ti wir yn haeddu’r wobr hon, ac rydym ni i gyd yn hynod falch ohonot.