GWERTH GWIRFODDOLI YN Y GYMUNED
Cyfleoedd Gyrru
A ydych wedi meddwl am wirfoddoli yn eich cymuned, ond nid ydych yn siŵr sut y gallech helpu? Wel, os oes gennych ychydig oriau sbâr yn y mis ac am fynd allan o'r tŷ a chwrdd â phobl, beth am ystyried dod yn wirfoddolwr. Mae LPY yn chwilio am fwy o yrwyr yn Llandysul a'r ardal gyfagos i fynd â phobl i apwyntiadau ysbyty a deintydd, siopa neu drip allan yn unig. Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau Trafnidiaeth Gymunedol Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr ac rydym bob amser yn chwilio am bobl newydd i ymuno â'r tîm!
- Mae angen i wirfoddolwyr fod â thrwydded yrru ddilys gyda dwy flynedd o brofiad gyrru.
- Rydym yn croesawu gwirfoddolwyr dros 25 oed.
- Mae angen gwirfoddolwyr o 9yb - 7yh ond gallwn chi penderfynnu pa amser chi am rhoi i ni.
- Derbyn hyfforddiant arbenigol y gellir ei drosglwyddo yn y sector trafnidiaeth gymunedol.
- Mwynhau gyrru ac yn hoffi cwrdd â phobl.
Cyfleoedd Gwirfoddoli Eraill
Os nad oes gennych ddiddordeb mewn gyrru, mae gennym gyfleoedd gwirfoddoli eraill megis: - tasgau gweinyddol, glanhau'r bysiau mini, didoli mewn digwyddiadau, gosod posteri ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau eraill.
Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o'r cyfleoedd uchod, a bod angen rhagor o wybodaeth arnoch, hoffem glywed gennych.
"Nid oes gan wirfoddolwyr yr amser o reidrwydd; mae'r galon ganddynt." – Elizabeth Andrew