Bysiau mini

Cymraeg English

Archebu Bws Mini

Mae gan Dolen Teifi nifer o fysiau mini cymunedol ar gael o 14 i 17 sedd (gan gynnwys y gyrrwr), ac mae pob un yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Bydd angen gyrrwr gyda tystysgrif MiDAS arnoch - weithiau gallwn eich rhoi mewn cysylltiad ag un, neu gallwn hyfforddi eich gyrwyr ar eich rhan. Mae gennym fflyd o wyth bws hygyrch a thri char hygyrch, un ohonynt yn MPV.
 

Mae'r bysiau mini ar gael i grwpiau / sefydliadau i ddarparu mynediad i wasanaethau cymunedol hanfodol, sy'n hyrwyddo gweithgarwch cymunedol, cynhwysiant cymdeithasol, cydlyniant cymunedol, adfywio, iechyd gwledig, lles ac adferiad o broblemau iechyd meddwl.

 

Amdano ein bysiau: -

  • Mae fwsau yn Peuegot Boxers 14 a 17 sedd, yn gwbl hygyrch gyda lifft teithwyr, gyda darpariaeth i ddau o deithwyr mewn cadeiriau olwyn.

  • Mae’r bysiau mini yn cael eu rhedeg o dan drwydded 19, (mae hyn yn drwydded rheoleiddio a ddarperir gan y Comisiynwyr Traffig)ac yn cael ei ystyried yn arfer da gan CTA UK.

  • Gall y bysiau mini cael eu gyrru heb drwydded D1 gan fod y cerbydau pan fyddant yn llawn llwythog o dan 3.5 tunnell. Mae hyn yn caniatáu i unigolion dros 25 oed gyda dwy flynedd o brofiad i yrru`r bysiau (cyn belled nad ydynt yn derbyn tâl)

  • Rhaid i bob gyrrwr wedi cael hyfforddiant MiDAS cyn y gallant yrru'r bws.

 

Aelodaeth a Codi Tâl

Diweddarwyd Gorffennaf 2022

  • Aelodaeth ar hyn o bryd yw £ 10 y flwyddyn ar gyfer pob grwp (Mae’r tâl yn cynnwys holl deithwyr y grŵp ‘). I’w dalu ym mis Ionawr bob blwyddyn.

  • Codir @ £ 1.80 y filltir, o ble mae’r bws mini yn seiliedig. Isafswm tâl £20.

Archebu’r Bw

I archebu bws, ffoniwch 01559 362403 neu anfonwch e-bost i info@dolenteifi.org.uk

I archebu’r bws, rydyn ni’n angen y wybodeath ‘ma:

  • Enw
  • Cymdeithas
  • Rhif Ffôn
  • Ebost
  • Dyddiad defnyddio’r bws
  • Amser cychwyn
  • Amser dychwelyd
  • Pa le ydi pen y daith?
  • Oes gennych yrrwr eich hunan / neu ydych chi am i ni ofyn i un o’r gwirfydolwyr sydd gyda ni (Cofiwch fod yn rhaid i’r gyrrwr fod a tystysgrif MiDAS)
  • Enw’r gyrrwr?

Beth a Sut i wneud wrth logi'r car a Gweithdrefnau COVID-19