Swydd Wag: Swyddog Datblygu Gwirfoddolwyr

22/06/2026

Swyddog Datblygu Gwirfoddolwyr

Dyddiad Cau:  4:00yh ddydd Gwener 3ydd Gorffennaf 2026.

Rhan-Amser – 17.5 awr yr wythnos
Cyflog: £25,000 y flwyddyn (pro rata)
Contract: 24 mis (wedi’i ariannu gan Grant Gwirfoddoli Cymru)
Lleoliad: Llandysul, gyda theithio ar draws Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a rhannau o Ogledd Sir Benfro
 
Helpu i gryfhau gwirfoddoli mewn cymunedau gwledig
 
Mae Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen yn chwilio am Swyddog Datblygu Gwirfoddolwyr trefnus ac cymellog i helpu i ddatblygu a chefnogi gwirfoddoli ar draws ei brosiectau cymunedol, gan gynnwys Trafnidiaeth Cymunedol Dolen Teifi
 
Mae’r sefydliad yn gweithio gyda chymunedau ar draws Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a rhannau o Ogledd Sir Benfro i wella mynediad at wasanaethau, cefnogi llesiant, a chryfhau gwydnwch lleol. Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith hwn, gan gyfrannu miloedd o oriau bob blwyddyn drwy drafnidiaeth gymunedol, mentrau lleol a gweithgareddau datblygu cymunedol.
 
Bydd y rôl newydd hon yn canolbwyntio ar ddatblygu rhaglen wirfoddoli strwythuredig, gynhwysol a chynaliadwy, tra hefyd yn arwain y sefydliad drwy’r broses o ennill achrediad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (Investing in Volunteers), safon genedlaethol gydnabyddedig.

Download the full job description and how to apply here.
Lawrlwythwch y disgrifiad swydd llawn a sut i wneud cais yma.