Beth a Sut i wneud wrth logi'r bws neu'r car
A fyddech cystal â sicrhau'r canlynol:
- Sicrhau bod y bws yn rhydd o sbwriel ar ôl ei ddefnyddio. Mae bagiau du ar gael ym mhob bws. Peidiwch â chymryd y rôl bagiau i ffwrdd gyda chi.
- Gwnewch yn siŵr bod y bws yn cael ei ddychwelyd yr un fath a gwnaethoch ei gael.
- Gofalwch fod digon o danwydd yn y bws ar gyfer y grŵp/sefydliad nesaf.
- Llenwch y ffurflenni'n gywir a Peidiwch â thynnu unrhyw ran o'r taflenni o'r llyfr.
- Gofalwch nad ydych yn torri`r cyflymder a nodwyd. Y grŵp llogi fydd yn gyfrifol am unrhyw euogfarnau.
Gweithdrefnau COVID-19 ar logi'r bysiau mini a cheir hygyrch
- Mae pob bws a char yn cael eu glanhau a'u ffogio yn ddwfn gyda'r diheintydd a argymhellir, ar ôl pob taith naill ai gan y gyrrwr gwirfoddol neu yrrwr y grwpiau.
- Rhaid i'r cyhoedd wisgo mygydau ar gyfer pob taith.
- Rhaid i bob teithiwr gadw at y pellter 2 fetr oddi wrth y gyrrwr a theithwyr eraill.
- Mae gel glanweithio ar gael i deithwyr ei ddefnyddio wrth fynd i mewn i'r bysiau mini neu geir.
- Bydd gwarchod persbec wedi'u gosod rhwng y gyrrwr a'r teithwyr i ychwanegu diogelwch ychwanegol.
- Cariwch hances bapur a gorchuddiwch eich ceg â hances wrth besychu neu disian, er mwyn lleihau lledaeniad diferion. Gwnewch yn siŵr bod yr hances bapur yn cael ei gwaredu'n ddiogel.
- Download the COVID-19 Compliance Policy & Risk Assessment.
Diolch am eich cydweithrediad
Mwy o wybodaeth:
Llywodraeth Cymru: Teithio'n ddiogel yn ystod pandemig y coronafeirws: canllawiau i'r cyhoedd
https://llyw.cymru/teithion-ddiogel-yn-ystod-pandemig-y-coronafeirws-canllawiau-ir-cyhoedd-html
Llywodraeth Cymru: Trafnidiaeth gyhoeddus: canllawiau i weithredwyr
https://llyw.cymru/ailddechrau-trafnidiaeth-gyhoeddus-canllawiau-i-weithredwyr-html
Community Transport Association: Coronavirus/COVID-19: Guidance for Community Transport
https://ctauk.org/covid19-guidance/